Eseciel 16:4-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ac am dy enedigaeth, ar ddydd dy eni ni thorrwyd llinyn dy fogail, na'th olchi mewn dŵr i'th lanhau, na'th rwbio â halen, na'th rwymo â chadach.

5. Ni thosturiodd neb wrthyt i wneud yr un o'r pethau hyn i ti, nac i drugarhau wrthyt; ond fe'th luchiwyd allan i'r maes, oherwydd fe'th ffieiddiwyd y diwrnod y ganwyd di.

6. “ ‘Yna fe ddeuthum heibio iti, a'th weld yn ymdrybaeddu yn dy waed, a dywedais wrthyt yn dy waed, “Bydd fyw.”

7. Gwneuthum iti dyfu fel planhigyn y maes; tyfaist a chynyddu a chyrraedd aeddfedrwydd. Chwyddodd dy fronnau a thyfodd dy wallt, er dy fod yn llwm a noeth.

8. “ ‘Deuthum heibio iti drachefn a sylwi arnat, a gweld dy fod yn barod am gariad; taenais gwr fy mantell drosot a chuddio dy noethni. Tynghedais fy hun iti, a gwneud cyfamod â thi, medd yr Arglwydd DDUW, a daethost yn eiddo imi.

9. Golchais di mewn dŵr a glanhau'r gwaed oddi arnat, a'th eneinio ag olew.

10. Gwisgais di mewn brodwaith a rhoi iti sandalau lledr; rhoddais liain main amdanat a'th orchuddio â sidan.

11. Addurnais di â thlysau, a rhoi breichledau am dy freichiau a chadwyn am dy wddf;

12. rhoddais fodrwy yn dy drwyn, tlysau ar dy glustiau a choron hardd ar dy ben.

13. Yr oeddit wedi dy addurno ag aur ac arian, a'th wisgo â lliain, sidan a brodwaith; yr oeddit yn bwyta peilliaid, mêl ac olew; yr oeddit yn hynod o brydferth, a chodaist i fod yn frenhines.

14. Aethost yn enwog ymysg y cenhedloedd o achos dy brydferthwch, oherwydd fe'i perffeithiwyd trwy'r harddwch a roddais i arnat, medd yr Arglwydd DDUW.

15. “ ‘Ond aethost i ymddiried yn dy brydferthwch, a phuteiniaist oherwydd dy enwogrwydd; yr oeddit yn cynnig dy gorff i unrhyw un a âi heibio, ac yntau'n ei gymryd.

16. Cymeraist rai o'th ddillad, a gwneud i ti dy hun uchelfeydd lliwgar, a phuteiniaist yno; ni fu peth fel hyn, ac ni fydd ychwaith.

17. Cymeraist hefyd dy dlysau prydferth, y tlysau o aur ac arian a roddais iti, a gwnaethost i ti dy hun eilunod gwryw a phuteinio gyda hwy;

18. cymeraist dy ddillad o frodwaith i'w gorchuddio, ac offrymu fy olew a'm harogldarth o'u blaenau.

Eseciel 16