Eseciel 16:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yr oeddit wedi dy addurno ag aur ac arian, a'th wisgo â lliain, sidan a brodwaith; yr oeddit yn bwyta peilliaid, mêl ac olew; yr oeddit yn hynod o brydferth, a chodaist i fod yn frenhines.

14. Aethost yn enwog ymysg y cenhedloedd o achos dy brydferthwch, oherwydd fe'i perffeithiwyd trwy'r harddwch a roddais i arnat, medd yr Arglwydd DDUW.

15. “ ‘Ond aethost i ymddiried yn dy brydferthwch, a phuteiniaist oherwydd dy enwogrwydd; yr oeddit yn cynnig dy gorff i unrhyw un a âi heibio, ac yntau'n ei gymryd.

Eseciel 16