Eseciel 15:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, sut y mae pren y winwydden yn well na phob coeden, ac na phob cangen ar goed y goedwig?

3. A gymerir pren ohoni i wneud rhywbeth defnyddiol? A wneir ohoni hoelen bren i grogi rhywbeth arni?

4. Os rhoddir hi'n gynnud i dân, bydd y tân yn difa'r ddau ben, a'r canol yn golosgi; ac i beth y mae'n dda wedyn?

Eseciel 15