1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2. “Fab dyn, proffwyda yn erbyn proffwydi Israel sy'n proffwydo; a dywed wrth y rhai sy'n proffwydo o'u meddyliau eu hunain, ‘Gwrandewch air yr ARGLWYDD.’
3. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r proffwydi ynfyd sy'n dilyn eu hysbryd eu hunain ac sydd heb weld dim!
4. Bu dy broffwydi, O Israel, fel llwynogod mewn adfeilion.
5. Nid aethoch i fyny i'r bylchau, ac adeiladu'r mur i dŷ Israel, er mwyn iddo sefyll yn y frwydr ar ddydd yr ARGLWYDD.
6. Y mae eu gweledigaethau yn dwyllodrus a'u dewiniaeth yn gelwydd; er nad yw'r ARGLWYDD wedi eu hanfon, y maent yn dweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, ac yn disgwyl iddo gyflawni eu gair.
7. Onid gweld gweledigaeth dwyllodrus a llefaru dewiniaeth gelwyddog yr oeddech wrth ddweud, ‘Medd yr ARGLWYDD’, a minnau heb lefaru?
8. “Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am ichwi lefaru'n dwyllodrus a chael gweledigaethau celwyddog, yr wyf fi yn eich erbyn, medd yr Arglwydd DDUW.
9. Bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sy'n cael gweledigaethau twyllodrus ac yn llefaru dewiniaeth gelwyddog; ni fyddant yn perthyn i gyngor fy mhobl nac wedi eu rhestru ar gofrestr tŷ Israel, ac ni fyddant yn dod i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.
10. “Am iddynt arwain fy mhobl ar gyfeiliorn a dweud, ‘Heddwch’, er nad oedd heddwch, y maent yn codi wal simsan ac yn ei dwbio â gwyngalch.
11. Dywed wrth y rhai sy'n ei gwyngalchu y bydd yn cwympo; daw glaw yn llifeiriant, paraf i'r cenllysg ddisgyn, a bydd gwyntoedd stormus yn rhwygo.
12. Pan fydd y mur yn cwympo, oni ofynnir i chwi, ‘Ymhle mae'r gwyngalch a roesoch?’?
13. Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn fy nig gwnaf i wynt stormus rwygo, yn fy llid daw glaw yn llifeiriant, ac yn fy nig daw cenllysg i'w dinistrio.
14. Chwalaf y mur a wyngalchwyd, a'i wneud yn wastad â'r llawr a dinoethi ei sylfaen. A phan syrth o'ch cwmpas, fe'ch dinistrir; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
15. Byddaf yn gweithredu fy nig yn erbyn y mur ac yn erbyn y rhai a fu'n ei wyngalchu, a dywedaf wrthych, ‘Darfu am y mur ac am y rhai a fu'n ei wyngalchu,
16. sef proffwydi Israel, a broffwydodd wrth Jerwsalem a chael gweledigaethau o heddwch, er nad oedd heddwch, medd yr Arglwydd DDUW.’