Eseciel 11:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Ond am y rhai sydd â'u calon yn dilyn pethau atgas a ffiaidd, rhoddaf dâl iddynt am hynny, medd yr Arglwydd DDUW.”

22. Yna cododd y cerwbiaid eu hadenydd, gyda'r olwynion wrth eu hochrau; ac yr oedd gogoniant Duw Israel uwch eu pennau.

23. Cododd gogoniant yr ARGLWYDD o fod dros ganol y ddinas, ac arhosodd dros y mynydd sydd i'r dwyrain ohoni.

24. Cododd yr ysbryd fi a mynd â mi at y gaethglud ym Mabilon mewn gweledigaeth trwy ysbryd Duw. Yna aeth y weledigaeth a gefais oddi wrthyf,

25. a dywedais wrth y caethgludion y cyfan a ddangosodd yr ARGLWYDD imi.

Eseciel 11