Eseciel 11:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Felly dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Fe'ch casglaf o blith y bobloedd, a'ch dwyn ynghyd o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a rhoddaf ichwi dir Israel.’

18. Pan ddônt yno, fe fwriant allan ohoni ei holl bethau atgas a ffiaidd.

19. Rhoddaf iddynt galon unplyg, ac ysbryd newydd ynddynt; tynnaf ohonynt y galon garreg, a rhoi iddynt galon gig.

20. Yna byddant yn dilyn fy neddfau ac yn gofalu cadw fy marnau; byddant yn bobl i mi, a byddaf finnau yn Dduw iddynt hwy.

Eseciel 11