Eseciel 11:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna cododd yr ysbryd fi a mynd â mi at borth y dwyrain i dŷ'r ARGLWYDD, sef yr un sy'n wynebu tua'r dwyrain. Ac yno wrth ddrws y porth yr oedd pump ar hugain o ddynion, a gwelais yn eu mysg Jaasaneia fab Assur a Pelateia fab Benaia, arweinwyr y bobl.

2. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Fab dyn, dyma'r dynion sy'n cynllwyn drygioni ac yn rhoi cyngor drwg yn y ddinas hon,

3. ac yn dweud, ‘Nid yw'n amser eto i adeiladu tai; y ddinas yw'r crochan, a ninnau yw'r cig.’

4. Felly, proffwyda yn eu herbyn; proffwyda, fab dyn.”

5. Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arnaf a dweud wrthyf, “Dywed, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fel y llefarwch, dŷ Israel; fe wn i beth sy'n dod i'ch meddyliau.

Eseciel 11