Eseciel 1:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. ac yr oedd eu hadenydd yn cyffwrdd â'i gilydd. Nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth gerdded, ond fe âi pob un yn syth yn ei flaen.

10. Yr oedd ffurf eu hwynebau fel hyn: yr oedd gan y pedwar ohonynt wyneb dynol, yna wyneb llew ar yr ochr dde, ac wyneb ych ar yr ochr chwith, ac wyneb eryr.

11. Yr oedd eu hadenydd wedi eu lledu uwchben, gyda dwy i bob creadur yn cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, a dwy yn cuddio ei gorff.

Eseciel 1