Effesiaid 5:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny), ond llanwer chwi â'r Ysbryd.

19. Cyfarchwch eich gilydd â salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol; canwch a phynciwch o'ch calon i'r Arglwydd.

20. Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;

21. a byddwch ddarostyngedig i'ch gilydd, o barchedig ofn tuag at Grist.

22. Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd;

23. oherwydd y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys; ac ef yw Gwaredwr y corff.

Effesiaid 5