Effesiaid 3:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Yr wyf yn erfyn, felly, ar ichwi beidio â digalonni o achos fy nioddefiadau drosoch; hwy, yn wir, yw eich gogoniant chwi.

14. Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad,

15. yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho,

16. ac yn gweddïo ar iddo ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy'r Ysbryd,

Effesiaid 3