Ecclesiasticus 9:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paid â bod yn eiddigeddus wrth wraig dy fynwes,na'i hyfforddi i ymarfer drwg er niwed i ti dy hun.

2. Paid â'th roi dy hun i ferch,a gadael iddi ymosod ar dy gryfder di.

3. Paid â mynd i gyfarfod merch lac ei moesau,rhag iti syrthio i'w maglau hi.

4. Paid ag oedi yng nghwmni dawnsferch,rhag iti gael dy ddal gan ei hystrywiau hi.

Ecclesiasticus 9