Ecclesiasticus 8:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Paid â diystyru'r hyn a draetha'r doeth,ond ymgydnabod â'u diarhebion;oherwydd ganddynt hwy y cei addysga hyfforddiant i weini ar fawrion.

9. Paid â gwyro oddi wrth yr hyn a draetha'r rhai sy'n llawn dyddiau,oherwydd gan eu hynafiaid y dysgasant hwythau;ganddynt hwy y dysgi di ddealla rhoi ateb yn awr yr angen.

10. Paid â chynnau golosg pechadur,rhag iti gael dy losgi yn fflam ei dân.

11. Paid â gadael y rhyfygus o'th olwg,rhag iddo ymguddio i'th faglu ar dy air.

Ecclesiasticus 8