12. Paid â rhoi benthyg i rywun cryfach na thi,ac os gwnei, cyfrif dy hun yn golledwr.
13. Paid â mechnïo uwchlaw dy allu i dalu,ac os gwnei, cofia mai ti fydd y talwr.
14. Paid ag ymgyfreithio â barnwr,oherwydd o'i blaid ef y dyfernir, ar bwys ei safle.
15. Paid â chyd-deithio â rhywun beiddgar,rhag iddo dy lethu'n llwyr,oherwydd bydd ef yn gwneud fel y myn ef ei hun,a thrwy ei ffolineb fe drengi dithau gydag ef.
16. Paid ag ymladd â rhywun llidiog,na mynd am dro gydag ef ar ffordd anial,oherwydd nid yw tywallt gwaed yn ddim yn ei olwg ef,ac fe'th dery i lawr lle nad oes help wrth law.
17. Paid ag ymgynghori â ffŵl,oherwydd ni all ef gadw cyfrinach.
18. Paid â gwneud dim dirgel yng ngŵydd rhywun dieithr,oherwydd ni wyddost beth a wna ef o'r peth.