Ecclesiasticus 7:17-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Darostwng dy hunan i'r eithaf,oherwydd tân a phryf fydd cosb yr annuwiol.

18. Paid â chyfnewid cyfaill am elw,na brawd cywir am aur Offir.

19. Paid â'th amddifadu dy hun o wraig ddoeth a da,oherwydd gwell nag aur yw ei hawddgarwch hi.

20. Paid â cham-drin caethwas sy'n gweithio'n onest,na gwas cyflog sy'n ymroi i'th wasanaeth.

21. Boed iti garu gwas deallus;paid â gwrthod ei ryddid iddo.

22. Os oes gennyt anifeiliaid, gofala amdanynt,ac os ydynt yn fuddiol iti, cadw hwy yn dy feddiant.

23. Os oes gennyt feibion, hyffordda hwy,a phlyg hwy dan yr iau o'u hieuenctid.

24. Os oes gennyt ferched, gwylia bod eu cyrff yn bur,a phaid â bod yn rhy dirion dy agwedd atynt.

25. Rho dy ferch mewn priodas, a byddi wedi cyflawni camp fawr;ond rho hi i ŵr deallus.

26. Os oes gennyt wraig wrth dy fodd, paid â'i bwrw hi ymaith,ond paid â'th ymddiried dy hun i wraig sy'n atgas gennyt.

27. Anrhydedda dy dad â'th holl galon,a phaid ag anghofio gwewyr esgor dy fam.

28. Cofia mai ohonynt hwy y cefaist dy eni.Sut y gelli dalu'n ôl iddynt am a wnaethant hwy i ti?

29. Ofna'r Arglwydd â'th holl enaid,a pharcha'i offeiriaid ef.

30. Câr dy Greawdwr â'th holl allu,a phaid â chefnu ar ei weinidogion.

31. Ofna'r Arglwydd ac anrhydedda'r offeiriad;rho iddo ei gyfran, fel y gorchmynnwyd iti:y blaenffrwyth, a'r offrwm dros gamwedd, a'r offrwm dyrchafael,ac aberth y cysegru, a blaenffrwyth y pethau sanctaidd.

32. Estyn hefyd dy law i'r tlawd,er mwyn iti dderbyn cyflawnder bendith.

33. Y mae rhoi yn ennill cymeradwyaeth pob un byw;paid ag atal dy gymwynas hyd yn oed i'r marw.

Ecclesiasticus 7