Ecclesiasticus 7:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paid â gwneud drwg, ac ni chaiff drwg afael ynot;

2. cilia oddi wrth anghyfiawnder, ac fe dry yntau oddi wrthyt ti.

3. Fy mab, paid â hau yng nghwysi anghyfiawnder,rhag i ti fedi cynhaeaf seithwaith cymaint.

4. Paid â cheisio gan yr Arglwydd swydd arweinydd,na chan y brenin sedd anrhydedd.

5. Paid â'th gyfiawnhau dy hun gerbron yr Arglwydd,na chymryd arnat fod yn ddoeth yng ngŵydd y brenin.

6. Paid â cheisio bod yn farnwr,rhag ofn na fyddi'n ddigon cryf i ddileu anghyfiawnder;fe ddichon y cait dy ddychryn gan lywodraethwr,a pheri cwymp i ti dy hun ar lwybr uniondeb.

7. Paid â phechu yn erbyn poblogaeth y ddinas,na'th waradwyddo dy hun yng nghanol y dyrfa.

8. Paid â rhwymo pechod wrth bechod,oherwydd y mae un yn ddigon i'th brofi'n euog.

9. Paid â dweud, “Fe sylwa Duw ar luosogrwydd fy rhoddion,ac fe dderbyn y Goruchaf yr offrwm a ddygaf iddo.”

10. Paid â bod yn wangalon yn dy weddi,nac esgeuluso rhoi elusen.

11. Paid â chwerthin am ben rhywun yng nghanol profiad chwerw,oherwydd yr Un sy'n darostwng sy'n dyrchafu hefyd.

12. Paid â phalu celwydd yn erbyn dy frawd,na gwneud dim tebyg i gyfaill chwaith.

13. Paid byth â dymuno dweud unrhyw gelwydd,oherwydd ni ddaw dim da o ddilyn arferiad felly.

14. Paid â bod yn dafodrydd yng nghwmni henuriaid,nac ailadrodd dy eiriau yn dy weddi.

15. Paid â chasáu gwaith llafurusna gwaith ar y tir; fe'u hordeiniwyd gan y Goruchaf.

16. Paid ag ymrestru yn rhengoedd y pechaduriaid;cofia na fydd oedi ar ddigofaint.

17. Darostwng dy hunan i'r eithaf,oherwydd tân a phryf fydd cosb yr annuwiol.

18. Paid â chyfnewid cyfaill am elw,na brawd cywir am aur Offir.

19. Paid â'th amddifadu dy hun o wraig ddoeth a da,oherwydd gwell nag aur yw ei hawddgarwch hi.

20. Paid â cham-drin caethwas sy'n gweithio'n onest,na gwas cyflog sy'n ymroi i'th wasanaeth.

Ecclesiasticus 7