Ecclesiasticus 6:27-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Dos ar ei thrywydd a chais hi, a chei ei hadnabod;ac wedi cael gafael arni, paid â'i gollwng.

28. Oherwydd yn y diwedd cei brofi ei gorffwystra hi,a throir hi yn llawenydd iti.

29. Daw ei llyffetheiriau yn gysgod cryf iti,a'i haerwyon yn wisg ysblennydd.

30. Oherwydd addurn aur yw ei hiau hi,a phleth o borffor yw ei rhwymau.

31. Fel gwisg ysblennydd y gwisgi hi,a'i gosod ar dy ben yn dorch gorfoledd.

32. Os mynni, fy mab, cei dy hyfforddi,ac os rhoddi dy fryd ar hynny, cei bob rhyw fedr.

Ecclesiasticus 6