Ecclesiasticus 6:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Rho dy ysgwydd dani i'w chario hi,a phaid â gwingo yn erbyn ei rhwymau.

26. Tyrd ati â'th holl fryd,ac â'th holl allu cadw i'w ffyrdd hi.

27. Dos ar ei thrywydd a chais hi, a chei ei hadnabod;ac wedi cael gafael arni, paid â'i gollwng.

28. Oherwydd yn y diwedd cei brofi ei gorffwystra hi,a throir hi yn llawenydd iti.

29. Daw ei llyffetheiriau yn gysgod cryf iti,a'i haerwyon yn wisg ysblennydd.

30. Oherwydd addurn aur yw ei hiau hi,a phleth o borffor yw ei rhwymau.

Ecclesiasticus 6