13. Cadw draw oddi wrth dy elynion,a gochel rhag dy gyfeillion.
14. Y mae cyfaill ffyddlon yn gysgod diogel;a'r sawl a gafodd un, fe gafodd drysor.
15. Nid oes dim y gellir ei gyfnewid am gyfaill ffyddlon,ac ni ellir pwyso ei werth ef.
16. Swyn i estyn bywyd yw cyfaill ffyddlon,a'r rhai sy'n ofni'r Arglwydd sy'n cael hyd iddo.
17. Y mae'r hwn sy'n ofni'r Arglwydd yn cadw ei gyfeillgarwch yn gywir,oherwydd y mae'n ymwneud â'i gymydog fel ag ef ei hun.
18. Fy mab, o'th ieuenctid casgla addysg,ac fe gei ddoethineb hyd at henoed.
19. Tyrd ati fel un sy'n aredig a hau,ac yna aros am ei ffrwythau da hi;oherwydd byr fydd dy lafur wrth drin ei thir,a buan y byddi'n bwyta o'i chnwd hi.
20. Llym iawn yw hi ar y rhai diaddysg,ac nid erys y diddeall yn ei chwmni.
21. Bydd yn gwasgu arno fel maen prawf trwm,ond ni bydd ef yn araf i'w bwrw hi oddi arno.
22. Oherwydd y mae doethineb gystal â'i henw,ac nid yw'n amlwg i lawer.
23. Gwrando, fy mab, derbyn fy marna phaid â gwrthod fy nghyngor.
24. Rho dy draed yn llyffetheiriau doethineb,a'th wddf yn ei haerwy hi.
25. Rho dy ysgwydd dani i'w chario hi,a phaid â gwingo yn erbyn ei rhwymau.
26. Tyrd ati â'th holl fryd,ac â'th holl allu cadw i'w ffyrdd hi.
27. Dos ar ei thrywydd a chais hi, a chei ei hadnabod;ac wedi cael gafael arni, paid â'i gollwng.
28. Oherwydd yn y diwedd cei brofi ei gorffwystra hi,a throir hi yn llawenydd iti.
29. Daw ei llyffetheiriau yn gysgod cryf iti,a'i haerwyon yn wisg ysblennydd.
30. Oherwydd addurn aur yw ei hiau hi,a phleth o borffor yw ei rhwymau.
31. Fel gwisg ysblennydd y gwisgi hi,a'i gosod ar dy ben yn dorch gorfoledd.