Ecclesiasticus 6:10-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Y mae ambell un sy'n gyfaill tra bydd wrth dy fwrdd,ond ni fydd yn glynu pan ddaw'n gyfyng arnat.

11. Yn dy lwyddiant bydd hwn yn un â thiac yn hy ar dy weision.

12. Os cei dy ddarostwng fe dry yn dy erbyna'i guddio'i hun allan o'th olwg.

13. Cadw draw oddi wrth dy elynion,a gochel rhag dy gyfeillion.

14. Y mae cyfaill ffyddlon yn gysgod diogel;a'r sawl a gafodd un, fe gafodd drysor.

15. Nid oes dim y gellir ei gyfnewid am gyfaill ffyddlon,ac ni ellir pwyso ei werth ef.

16. Swyn i estyn bywyd yw cyfaill ffyddlon,a'r rhai sy'n ofni'r Arglwydd sy'n cael hyd iddo.

17. Y mae'r hwn sy'n ofni'r Arglwydd yn cadw ei gyfeillgarwch yn gywir,oherwydd y mae'n ymwneud â'i gymydog fel ag ef ei hun.

18. Fy mab, o'th ieuenctid casgla addysg,ac fe gei ddoethineb hyd at henoed.

19. Tyrd ati fel un sy'n aredig a hau,ac yna aros am ei ffrwythau da hi;oherwydd byr fydd dy lafur wrth drin ei thir,a buan y byddi'n bwyta o'i chnwd hi.

Ecclesiasticus 6