1. O fod yn gyfaill, paid â throi'n elyn,oherwydd bydd enw drwg yn etifeddu gwarth a gwaradwydd;ffordd y pechadur dauwynebog yw hynny.
2. Paid â'th ddyrchafu dy hun yn dy ewyllys hunanol,rhag iti fel tarw dy ddarnio dy hun.
3. Byddi'n difa dy ddail ac yn dinistrio dy ffrwythau,ac yn dy adael dy hun fel pren crin.
4. Bydd natur ddrygionus yn dinistrio'i pherchennogac yn ei wneud yn gyff gwawd i'w elynion.
5. Y mae ymadroddion melys yn amlhau cyfeillion dyn,a geiriau mwyn yn amlhau moesgarwch.
6. Gad i lawer gyfarch gwell iti,ond i un o bob mil dy gynghori.
7. Wrth geisio cael cyfaill, cais ef drwy brawf,a phaid â brysio i ymddiried ynddo.
8. Oherwydd y mae ambell un sy'n gyfaill tra mae'n gyfleus iddo,ond ni fydd yn glynu pan ddaw'n gyfyng arnat.
9. Y mae ambell gyfaill sy'n troi yn elyn,ac yn dy waradwyddo trwy gyhoeddi'r ffrae i'r byd.
10. Y mae ambell un sy'n gyfaill tra bydd wrth dy fwrdd,ond ni fydd yn glynu pan ddaw'n gyfyng arnat.
11. Yn dy lwyddiant bydd hwn yn un â thiac yn hy ar dy weision.
12. Os cei dy ddarostwng fe dry yn dy erbyna'i guddio'i hun allan o'th olwg.