Ecclesiasticus 51:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Pan oeddwn eto'n ifanc, cyn cychwyn ar fy nheithiau,ar goedd yn fy ngweddi gwneuthum gais am ddoethineb.

14. Yng nghyntedd y cysegr fe'i hawliais imi,a daliaf i'w cheisio hyd y diwedd.

15. O'i blodau cyntaf hyd y grawnwin aeddfed,ynddi hi yr ymhyfrydodd fy nghalon.Cedwais fy nhroed ar lwybr unionwrth imi ei chanlyn o'm hieuenctid.

Ecclesiasticus 51