Ecclesiasticus 50:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yr oedd fel seren y bore yn disgleirio rhwng y cymylau,neu fel y lleuad ar ei hamserau llawn;

7. fel yr haul yn llewyrchu ar deml y Goruchaf,fel yr enfys yn pelydru'n amryliw yn y cymylau,

8. fel rhosyn yn blodeuo yn y gwanwyn,fel lili ger ffynnon o ddŵr,fel pren thus yn yr haf,

9. fel arogldarth yn llosgi mewn thuser,fel llestr o aur coethwedi ei addurno â meini gwerthfawr o bob rhyw fath,

10. fel olewydden yn llwythog â ffrwyth,ac fel cypreswydden a'i phen yn y cymylau.

11. Pan roddai amdano ei fantell ogoneddus,ac ymwisgo yn ei gyflawn ysblander,wrth fynd i fyny at yr allor sanctaiddbyddai'n tywynnu gogoniant ar fangre'r cysegr.

Ecclesiasticus 50