17. Ar hyn, yn ddiymdroi, byddai'r holl bobl gyda'i gilyddyn syrthio ar eu hwynebau ar y ddaeari addoli eu Harglwydd,yr Hollalluog, y Duw Goruchaf.
18. Codai'r cantorion eu lleisiau mewn mawl,gan felysu'r gân ag amryfal seiniau;
19. a'r bobl hwythau'n ymbil ar yr Arglwydd Hollalluog,mewn gweddi gerbron y Duw Trugarog,nes cwblhau trefn addoliad yr Arglwydda dirwyn y gwasanaeth i ben.
20. Wedyn dôi Simon i lawr a chodi ei ddwylodros gynulleidfa gyfan Israel,i gyhoeddi bendith yr Arglwydd â'i wefusau,gan orfoleddu yn ei enw ef.
21. A byddai'r bobl yn ymgrymu eilwaith mewn addoliad,i dderbyn y fendith gan y Goruchaf.
22. Ac yn awr, bendithiwch Dduw'r cyfanfyd,sy'n cyflawni ei fawrion weithredoedd ym mhobman,sy'n mawrhau ein dyddiau o'n geni,ac yn ymwneud â ni yn ôl ei drugaredd.
23. Rhoed ef inni lawenydd calon,a llenwi ein dyddiau ni â heddwch,a dyddiau Israel hefyd am byth.
24. Rhoed inni sicrwydd o'i drugaredda gwaredigaeth yn ein dyddiau
25. Y mae dwy genedl sy'n gas gennyf,a thrydedd, nad yw'n genedl o gwbl:
26. preswylwyr Mynydd Seir, a'r Philistiaid,a'r bobl ynfyd sy'n trigo yn Sichem.
27. Hyfforddiant mewn deall a gwybodaetha ysgrifennwyd yn y llyfr hwngennyf fi, Iesu fab Sirach, o Jerwsalem;ynddo yr arllwysais y ddoethineb a darddodd o'm meddwl.
28. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ymdroi gyda'r pethau hyn;o'u trysori yn ei galon fe ddaw'n ddoeth;