Ecclesiasticus 50:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Ar hyn, yn ddiymdroi, byddai'r holl bobl gyda'i gilyddyn syrthio ar eu hwynebau ar y ddaeari addoli eu Harglwydd,yr Hollalluog, y Duw Goruchaf.

18. Codai'r cantorion eu lleisiau mewn mawl,gan felysu'r gân ag amryfal seiniau;

19. a'r bobl hwythau'n ymbil ar yr Arglwydd Hollalluog,mewn gweddi gerbron y Duw Trugarog,nes cwblhau trefn addoliad yr Arglwydda dirwyn y gwasanaeth i ben.

20. Wedyn dôi Simon i lawr a chodi ei ddwylodros gynulleidfa gyfan Israel,i gyhoeddi bendith yr Arglwydd â'i wefusau,gan orfoleddu yn ei enw ef.

Ecclesiasticus 50