Ecclesiasticus 50:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. byddai yntau'n cwblhau defodau'r allorau,a rhoi trefn ar yr offrwm i'r Goruchaf a'r Hollalluog:

15. yn estyn ei law at gwpan y diodoffrwmac yn arllwys ohono waed y grawnwin,gan ei dywallt wrth droed yr allor,yn berarogl i'r Goruchaf, Brenin pawb.

16. Yna gwaeddai meibion Aarona chanu eu hutgyrn o fetel coeth,nes bod y sŵn yn atseinio'n hyglywi'w hatgoffa gerbron y Goruchaf.

17. Ar hyn, yn ddiymdroi, byddai'r holl bobl gyda'i gilyddyn syrthio ar eu hwynebau ar y ddaeari addoli eu Harglwydd,yr Hollalluog, y Duw Goruchaf.

18. Codai'r cantorion eu lleisiau mewn mawl,gan felysu'r gân ag amryfal seiniau;

Ecclesiasticus 50