Ecclesiasticus 50:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Wrth gymryd darnau'r aberth o ddwylo'r offeiriaid,ac yntau'n sefyll wrth le tân yr allor,a'i frodyr yn dorch o'i amgylch,yr oedd fel cedrwydden ifanc yn Lebanonyng nghanol coedlan o balmwydd.

13. A holl feibion Aaron yn eu gwychder,ac offrymau'r Arglwydd yn eu dwylo,yn sefyll o flaen cynulleidfa gyflawn Israel,

14. byddai yntau'n cwblhau defodau'r allorau,a rhoi trefn ar yr offrwm i'r Goruchaf a'r Hollalluog:

15. yn estyn ei law at gwpan y diodoffrwmac yn arllwys ohono waed y grawnwin,gan ei dywallt wrth droed yr allor,yn berarogl i'r Goruchaf, Brenin pawb.

16. Yna gwaeddai meibion Aarona chanu eu hutgyrn o fetel coeth,nes bod y sŵn yn atseinio'n hyglywi'w hatgoffa gerbron y Goruchaf.

17. Ar hyn, yn ddiymdroi, byddai'r holl bobl gyda'i gilyddyn syrthio ar eu hwynebau ar y ddaeari addoli eu Harglwydd,yr Hollalluog, y Duw Goruchaf.

18. Codai'r cantorion eu lleisiau mewn mawl,gan felysu'r gân ag amryfal seiniau;

19. a'r bobl hwythau'n ymbil ar yr Arglwydd Hollalluog,mewn gweddi gerbron y Duw Trugarog,nes cwblhau trefn addoliad yr Arglwydda dirwyn y gwasanaeth i ben.

Ecclesiasticus 50