Ecclesiasticus 50:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr archoffeiriad Simon fab Onias,dyma'r gŵr a atgyweiriodd y deml yn ystod ei fywyd,a chadarnhau'r cysegr yn ei ddydd.

2. Ganddo ef hefyd y gosodwyd sylfeini'r mur o ddau uchdwr,y mur uchel o amgylch mangre'r deml.

3. Yn ei ddydd ef y cloddiwyd y gronfa ddŵr,yn bwll tebyg i'r môr yn ei ehangder.

4. Dyma'r gŵr a roes ei fryd ar arbed ei bobl rhag cwympo,ac a gryfhaodd amddiffynfeydd y ddinas yn erbyn gwarchae.

5. Mor ogoneddus ydoedd, a'r bobl yn tyrru o'i gwmpaswrth iddo ddod allan trwy len y deml!

6. Yr oedd fel seren y bore yn disgleirio rhwng y cymylau,neu fel y lleuad ar ei hamserau llawn;

7. fel yr haul yn llewyrchu ar deml y Goruchaf,fel yr enfys yn pelydru'n amryliw yn y cymylau,

Ecclesiasticus 50