Ecclesiasticus 5:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paid â rhoi dy fryd ar dy gyfoeth,na dweud, “Yr wyf ar ben fy nigon.”

2. Paid â dilyn trywydd dy ewyllys a'th gryfder dy hun,gan rodio yn ôl chwantau dy galon dy hun.

3. Paid â dweud, “Pwy gaiff fod yn feistr arnaf fi?”Oherwydd y mae'r Arglwydd yn siŵr o'th alw i gyfrif.

4. Paid â dweud, “Pechais, a beth a ddigwyddodd imi?”Oherwydd hirymarhous yw'r Arglwydd.

5. Paid â bod yn eofn ynglŷn â phuredigaeth dy bechod,nes pentyrru ohonot bechod ar bechod.

6. A phaid â dweud, “Mawr yw ei dosturi ef;fe faddeua fy aml bechodau.”Oherwydd gydag ef y mae trugaredd, a digofaint hefyd,ac ar bechaduriaid y gorffwys ei lid ef.

Ecclesiasticus 5