Ecclesiasticus 48:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Trawodd wersyll yr Asyriaid,a'u difa trwy ei angel.

22. Oherwydd gwnaeth Heseceia yr hyn a ryngai fodd yr Arglwydd,a chadw'n ddiysgog at ffyrdd Dafydd ei gyndad,yn unol â gorchymyn Eseia,y proffwyd mawr y gellid ymddiried yn ei weledigaeth.

23. Yn ei ddyddiau ef fe drowyd yr haul yn ei ôl,ac estynnodd ef einioes y brenin.

24. Trwy ysbrydoliaeth fawr rhagwelodd y pethau olaf,a rhoes gysur i'r galarwyr yn Seion.

25. Datguddiodd y pethau oedd i ddod hyd ddiwedd amser,a'r pethau dirgel, cyn iddynt ddigwydd.

Ecclesiasticus 48