Ecclesiasticus 47:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Gosododd gantorion gerbron yr allori felysu'r gân â'i hyfrydlais.

10. Rhoes wedduster i'w gwyliau,a threfnu cylch cyflawn yr amseraui foliannu enw sanctaidd yr Arglwydd,a llenwi'r cysegr â sŵn mawl o'r bore bach.

11. Dileodd yr Arglwydd ei bechodaua'i ddyrchafu i awdurdod tragwyddol;gwnaeth gyfamod ag ef, i'w godi yn frenina'i osod ar orsedd ogoneddus Israel.

12. Ar ei ôl ef cododd ei fab, gŵr doeth,a gafodd, trwy ymdrech ei dad, ehangder i drigo ynddo.

13. Teyrnasodd Solomon mewn dyddiau o heddwch,a rhoes Duw lonyddwch o'i amgylch ar bob tu,er mwyn iddo godi tŷ er gogoniant i'w enw ef,a darparu cysegr i bara am byth.

14. Mor ddoeth fuost, Solomon, yn dy ieuenctid,a'th ddealltwriaeth fel afon yn gorlifo!

15. Ymledodd dy ddylanwad dros y ddaeara'i llenwi â diarhebion a dirgelion.

16. Daeth dy enw'n hysbys yn yr ynysoedd pell,a daethpwyd i'th garu am heddwch dy deyrnasiad.

17. Daeth dy gerddi, dy gyffelybiaethau, dy ddiarhebiona'th ddehongliadau yn rhyfeddod yng ngolwg y gwledydd.

18. Yn enw'r Arglwydd Dduw,a adwaenir fel Duw Israel,cesglaist aur fel casglu alcam,a phentyrru arian fel petai'n blwm.

19. Gollyngaist dy hun i gydorwedd â gwragedd,a rhoi iddynt hawl ar dy gorff.

Ecclesiasticus 47