Ecclesiasticus 47:2-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Fel braster wedi ei wahanu oddi wrth yr heddoffrwm,felly y neilltuwyd Dafydd oddi wrth blant Israel.

3. Chwaraeodd â llewod fel pe baent yn fynnodac ag eirth fel pe baent yn ŵyn o'r praidd.

4. Yn ei ieuenctid oni laddodd ef gawr,a symud eu gwaradwydd oddi ar y bobltrwy godi ei law i fwrw carreg â'i ffon dafla darostwng trahauster Goliath?

5. Oherwydd galwodd ar yr Arglwydd Goruchaf,a rhoes yntau nerth i'w ddeheulawi daro i lawr y rhyfelwr cadarn hwnnwa chodi ei bobl i fuddugoliaeth.

6. Felly clodforwyd ef am y myrddiynau a drechodd,a'i ganmol am gael bendithion yr Arglwydd,pan wisgwyd ef â choron ogoneddus.

7. Oherwydd difaodd y gelynion ar bob tu,a diddymu'r Philistiaid a'i gwrthsafodd;drylliodd eu grym hyd y dydd hwn.

8. Yn ei holl weithgarwch rhoes ddiolchi'r Un Sanctaidd a Goruchel, a datgan ei ogoniant;â'i holl galon canodd fawl,a mynegi ei gariad at ei Greawdwr.

Ecclesiasticus 47