Ecclesiasticus 46:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. A dyma'r unig ddau a ddihangodd yn fyw,o'r chwe chan mil o wŷr traed,i gael mynediad i mewn i'w hetifeddiaethyn y wlad oedd yn llifeirio o laeth a mêl.

9. Rhoes yr Arglwydd i Caleb gryfdera barhaodd gydag ef hyd ei henaint,i'w alluogi i droedio ar uchelfannau'r wlady mae ei ddisgynyddion wedi ei meddiannu'n etifeddiaeth.

10. Felly daeth holl blant Israel i weldmai da yw canlyn yr Arglwydd.

11. A'r barnwyr hefyd, y mae i bob un ohonynt ei enw da,ni bu neb ohonynt yn anffyddlon yn ei amcanion,ac ni chefnodd neb ohonynt ar yr Arglwydd.Bendigedig fo'u coffadwriaeth hwy!

12. Bydded i'w hesgyrn egino eto o'r ddaear lle'u claddwyd,a bydded i enwau'r rhai hyglod hynennill bri tebyg yn hanes eu plant.

13. Gŵr annwyl yng ngolwg ei Arglwydd oedd Samuel;fel proffwyd yr Arglwydd sefydlodd y frenhiniaethac eneinio llywodraethwyr ar ei bobl.

14. Barnodd y gynulleidfa wrth gyfraith yr Arglwydd,a daeth yr Arglwydd i warchod Jacob.

15. Trwy ei ffyddlondeb fe'i profwyd yn wir broffwyd,a thrwy ei eiriau daethpwyd i'w adnabod fel un cywir ei welediad.

16. Galwodd ar yr Arglwydd nerthol,pan oedd ei elynion yn gwasgu arno ar bob tu,ac offrymodd oen sugno yn aberth.

17. Yna taranodd yr Arglwydd o'r nefa pharodd glywed ei lais â sŵn mawr.

18. Difaodd arweinwyr y Tyriaida holl lywodraethwyr y Philistiaid.

19. A chyn dyfod yr amser iddo fynd i'w hun dragwyddol,tystiolaethodd Samuel gerbron yr Arglwydd a'i eneiniog:“Ni ddygais ddim o'i eiddo oddi ar neb,naddo, ddim cymaint â'i sandalau.”Ac nid oedd neb a'i cyhuddodd.

20. Hyd yn oed ar ôl iddo huno, fe broffwydodda rhybuddio'r brenin o'i farwolaeth,gan fwrw ei lais i fyny o'r ddaearmewn proffwydoliaeth, i ddileu camwedd y bobl.

Ecclesiasticus 46