Ecclesiasticus 45:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Cyn ei amser ef, ni bu erioed y fath addurniadau gwych;ac nis gwisgwyd erioed gan neb nad oedd o'i deulu,neb ond ei feibion ef yn unig,a'i ddisgynyddion ym mhob cyfnod.

14. Llwyr losgir ei holl offrymau efddwywaith bob dydd yn wastadol.

15. Moses a'i cysegrodd ef,a'i eneinio ag olew sanctaidd;daeth hyn yn gyfamod tragwyddol iddo ef,ac i'w ddisgynyddion holl ddyddiau'r nef:ei fod i weinidogaethu i'r Arglwydd a gwasanaethu fel offeiriad,a bendithio'i bobl yn ei enw ef.

16. Dewisodd ef o blith pawb bywi offrymu aberth i'r Arglwydd,arogldarth peraidd yn goffadwriaeth,ac yn foddion puredigaeth pechodau dy bobl.

17. Rhoes iddo ef, gyda'i orchmynion,awdurdod i ddyfarnu ar amodau'r cyfamod,i ddysgu i Jacob ei ddatganiadauac i oleuo Israel yn ei gyfraith.

18. Mewn cynllwyn yn tarddu o genfigen,cododd gwŷr nad oeddent o'i deulu yn ei erbyn yn yr anialwch,Dathan ac Abiram a'u gwŷr,a charfan Cora yn eu llid a'u dicter.

19. Gwelodd yr Arglwydd hyn, a'i gael yn anghymeradwy;fe'u llwyr ddinistriodd yn llid ei ddicter.Gwnaeth ryfeddodau yn eu herbyni'w difa â fflam ei dân.

Ecclesiasticus 45