Ecclesiasticus 43:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. A'r lleuad wedyn, sy'n cadw ei hoed yn ddi-feth,hi sy'n datgan yr amserau ac yn nodi'r cyfnodau,

7. hi sy'n pennu dydd gŵyl—y goleuad sy'n gwanhau wrth ddod i ben ei rawd.

8. Wrthi hi yr enwir y mis,a hithau ar newydd wedd yn prifio'n rhyfeddol.Hi yw llusern lluoedd yr uchelder,yn rhoi ei goleuni yn ffurfafen y nef.

9. Y sêr yn eu gogoniant yw prydferthwch y nef,llu goleulon uchelderau'r Arglwydd.

10. Ar archiad yr Un Sanctaidd fe safant yn eu trefn,heb ddiffygio byth yn eu gwyliadwriaethau.

11. Edrych ar fwa'r enfys a folianna'i greawdwr;teg odiaeth yw ei lewyrch ef,

12. yn amgylchu'r nef â chylch o ysblander,wedi ei dynnu gan ddwylo'r Goruchaf.

13. Ei orchymyn ef sy'n prysuro'r eira,ac yn cyflymu mellt ei farnedigaethau.

Ecclesiasticus 43