Ecclesiasticus 43:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Gogoneddwch yr Arglwydd, dyrchafwch efhyd eithaf eich gallu, oherwydd rhagorach lawer yw na'ch mawl;dyrchafwch ef, ymegnïwch yn fwyfwyheb ddiffygio dim, oherwydd ni ddewch byth i ben.

31. Pwy a'i gwelodd ef, i fedru traethu amdano?A phwy a all ei fawrhau yn deilwng o'r hyn ydyw?

32. Y mae llawer o ddirgelion mwy na'r rhai hyn yn aros, oherwydd ni welsom ond ychydig o'i weithredoedd ef.

33. Yr Arglwydd a wnaeth bob peth,ac ef a roes i'r rhai duwiol ddoethineb.

Ecclesiasticus 43