Ecclesiasticus 43:22-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Yn sydyn daw niwlen i iacháu pob peth;ac wedi'r gwres, y gwlith yn disgyn i sirioli'r wlad.

23. Llonyddodd ef y dyfnfor â grym ei feddwl,a phlannodd ynysoedd ynddo.

24. Y mae'r rhai sy'n hwylio ar y môr yn traethu am ei beryglon,nes peri syndod i ni sy'n eu clywed.

25. Ynddo gwelir creaduriaid anhygoel a rhyfeddol,anifeiliaid o bob rhywogaeth ac angenfilod y môr.

26. O'i allu ei hun fe ddwg i ben ei holl amcanion,ac yn ei air ef y mae popeth yn cydsefyll.

27. Faint bynnag a ddywedwn, ni allwn byth ddod i ben.Swm a sylwedd yr hyn a draethwyd yw: ef yw'r cyfan.

28. O ble y cawn fedr i ganu ei glod?Oherwydd mwy yw ef na'i weithredoedd i gyd.

Ecclesiasticus 43