Ecclesiasticus 43:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ar ei ymddangosiad fe ysgydwir y mynyddoedd,ac wrth ei ewyllys y chwyth y deheuwynt;

17. wrth sŵn ei daran y gwinga'r ddaear,a daw tymestl o'r gogledd, a chorwynt.Y mae'n taenu'r plu eira fel adar yn disgyn;dônt i lawr fel haid o locustiaid yn glanio.

18. Rhyfeddod i'r llygad yw tegwch eu gwynder,a syndod i'r galon yw eu gweld yn disgyn.

19. A'r barrug, y mae'n ei dywallt ar y ddaear fel halen,a hwnnw wedyn yn rhewi'n ddrain pigog.

20. Y mae gwynt oer y gogledd yn chwythuac yn caledu'r rhew ar wyneb y dŵr;ar bob cronfa o ddŵr fe ddaw'r rhew,a'r dŵr yn ei wisgo fel llurig.

21. Y mae'n difa'r mynyddoedd ac yn llosgi'r anialwch,ac yn crino'r borfa fel tân.

22. Yn sydyn daw niwlen i iacháu pob peth;ac wedi'r gwres, y gwlith yn disgyn i sirioli'r wlad.

Ecclesiasticus 43