Ecclesiasticus 42:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Fel y mae llewyrch yr haul yn treiddio i bob man,felly y mae gogoniant yr Arglwydd yn llenwi ei waith.

17. Ni roddodd yr Arglwydd i'w angylion sanctaidddraethu ei holl ryfeddodau,sef y rheini a lanwodd yr Arglwydd hollalluog â'i nerthi beri i'r cyfanfyd sefyll yn ddiysgog yn ei ogoniant ef.

18. Y mae'r dyfnder diwaelod, a'r galon, yn hysbys iddo,a'u holl droeau cudd yn wybyddus ganddo,oherwydd y mae'r Goruchaf yn meddu ar bob gwybodaeth,ac yn gweld arwyddion pob oes.

19. Y mae'n cyhoeddi'r pethau a fu, a'r pethau a fydd,ac yn datguddio llwybr pethau dirgel.

Ecclesiasticus 42