Ecclesiasticus 42:14-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Gwell yw drygioni dyn na gwraig dda ei gweithredoeddnad yw ond yn pentyrru gwarth ar waradwydd.

15. Cofiaf yn awr weithredoedd yr Arglwydd,a thraethaf yr hyn a welais;trwy eiriau'r Arglwydd y gwneir ei weithredoedd.

16. Fel y mae llewyrch yr haul yn treiddio i bob man,felly y mae gogoniant yr Arglwydd yn llenwi ei waith.

17. Ni roddodd yr Arglwydd i'w angylion sanctaidddraethu ei holl ryfeddodau,sef y rheini a lanwodd yr Arglwydd hollalluog â'i nerthi beri i'r cyfanfyd sefyll yn ddiysgog yn ei ogoniant ef.

18. Y mae'r dyfnder diwaelod, a'r galon, yn hysbys iddo,a'u holl droeau cudd yn wybyddus ganddo,oherwydd y mae'r Goruchaf yn meddu ar bob gwybodaeth,ac yn gweld arwyddion pob oes.

19. Y mae'n cyhoeddi'r pethau a fu, a'r pethau a fydd,ac yn datguddio llwybr pethau dirgel.

20. Ni ddihangodd unrhyw wybodaeth rhagddo,ac ni chuddiwyd dim un gair o'i olwg.

21. Rhoes drefn ar fawrion weithredoedd ei ddoethineb;y mae yn bod o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb,un nad oes ychwanegu ato na thynnu oddi wrtho,a heb fod arno angen cyngor neb.

22. Mor ddymunol yw ei holl weithredoedd ef,fel y gwelir hyd yn oed mewn gwreichionen.

23. Y mae pob un ohonynt a bywyd ynddi, ac yn para am byth,ac yn ufudd ym mhob defnydd a wneir ohoni.

24. Y mae dau o bob peth, y naill yn wrthwyneb i'r llall;ni wnaeth ef ddim yn ddiffygiol.

Ecclesiasticus 42