10. yn ei gwyryfdod, rhag iddi gael ei halogia dod yn feichiog yn nhŷ ei thad,ac wedi iddi gael gŵr, rhag iddi droseddu,neu rhag iddi, yn wraig briod, fod yn ddi-blant.
11. Cadw ferch anhydrin dan warchodaeth lem,rhag iddi dy wneud yn gyff gwawd i'th elynion,yn destun siarad yn y ddinas, yn ddihareb ymhlith y bobl,a rhag iddi ddwyn gwaradwydd arnat ger bron lliaws y boblogaeth.
12. Paid â gadael iddi ddangos ei thegwch i unrhyw ddyn,na chymryd ei chynghori gan y gwragedd.
13. Oherwydd o ddillad y daw pryf,ac o wraig ddrygioni gwraig.
14. Gwell yw drygioni dyn na gwraig dda ei gweithredoeddnad yw ond yn pentyrru gwarth ar waradwydd.
15. Cofiaf yn awr weithredoedd yr Arglwydd,a thraethaf yr hyn a welais;trwy eiriau'r Arglwydd y gwneir ei weithredoedd.
16. Fel y mae llewyrch yr haul yn treiddio i bob man,felly y mae gogoniant yr Arglwydd yn llenwi ei waith.
17. Ni roddodd yr Arglwydd i'w angylion sanctaidddraethu ei holl ryfeddodau,sef y rheini a lanwodd yr Arglwydd hollalluog â'i nerthi beri i'r cyfanfyd sefyll yn ddiysgog yn ei ogoniant ef.