Ecclesiasticus 42:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r pethau na ddylai fod arnat gywilydd ohonynt,rhag iti bechu wrth geisio plesio eraill:

2. o gyfraith a chyfamod y Goruchaf,a'r ddedfryd sy'n cyfiawnhau'r annuwiol;

3. o gadw cyfrif gyda chydymaith neu gyd-deithwyr,a derbyn rhodd dan ewyllys cyfeillion;

4. o fod yn fanwl gywir â chloriannau a phwysau,a phrynu pethau mawr a mân,

5. a gwneud elw trwy fargeinio â masnachwyr;o ddisgyblu mynych ar blant,a thynnu gwaed o ystlys caethwas drwg.

6. Peth da yw sêl lle bo gwraig ddidoreth,a chlo lle bo dwylo lawer.

7. Beth bynnag a roddi i'w gadw, cymer ofal i'w rifo a'i bwyso,ac ym mhob rhoi a derbyn, cadw gofnod ysgrifenedig.

Ecclesiasticus 42