Ecclesiasticus 41:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Bydd ei blant yn beio tad annuwiolam y gwaradwydd a ddaeth arnynt o'i achos ef.

8. Gwae chwi, rai annuwiol,a gefnodd ar gyfraith y Duw Goruchaf.

9. Pan gewch eich geni, i felltith y'ch genir,a phan fyddwch farw, melltith fydd eich rhan.

10. Y mae popeth sydd o'r ddaear i ddychwelyd i'r ddaear;felly yr â'r annuwiol o felltith i ddistryw.

11. Galaru am eu cyrff a wna pobl,ond dileir enw pechaduriaid am nad yw'n dda.

Ecclesiasticus 41