Ecclesiasticus 41:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. ac o ladrad yng ngŵydd dy gymdogaeth;ymgywilyddiwch yng ngŵydd gwirionedd a chyfamod Duw.Bydded cywilydd arnat o osod dy benelin ar y bwrdd,o dderbyn a rhoi mewn dirmyg,

20. o fod yn fud yng ngŵydd y rhai sy'n dy gyfarch,o lygadu gwraig sy'n butain,

21. o droi dy wyneb oddi wrth dy gâr,o ddwyn cyfran neu rodd oddi ar rywun,o roi sylw i wraig a chanddi ŵr,

22. ac o ymyrryd â chaethferch dyn—paid â mynd yn agos at ei gwely hi.Bydded cywilydd arnat o eiriau bychanus yng ngŵydd cyfeillion—paid ag edliw iddynt dy rodd ar ôl ei rhoi.

23. Bydded cywilydd arnat o ailadrodd stori a glywaist,ac o fradychu cyfrinachau.

24. Yna byddi'n dangos cywilydd o'r iawn ryw,a byddi'n gymeradwy yng ngolwg pawb.

Ecclesiasticus 41