Ecclesiasticus 41:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Y mae popeth sydd o'r ddaear i ddychwelyd i'r ddaear;felly yr â'r annuwiol o felltith i ddistryw.

11. Galaru am eu cyrff a wna pobl,ond dileir enw pechaduriaid am nad yw'n dda.

12. Cymer ofal o'th enw, oherwydd fe erys i'th glodyn hwy na mil o gronfeydd mawr o aur.

13. I fywyd da y mae nifer penodedig o ddyddiau,ond y mae enw da yn aros am byth.

14. Fy mhlant, daliwch afael ar eich addysg, i fyw mewn heddwch.Doethineb guddiedig a thrysor anweledig,pa fudd sydd yn y naill na'r llall?

15. Gwell yw rhywun sy'n cuddio'i ffolinebna'r un sy'n cuddio'i ddoethineb.

16. Gan hynny, byddwch yn barchus o'm gair i,oherwydd nid yw pob math o gywilydd yn beth da i'w goleddu,ac nid yw pob peth i'w gymeradwyo'n ffyddiog bob amser.

17. Bydded cywilydd arnoch o buteindra yng ngŵydd tad a mam,o gelwydd yng ngŵydd tywysog a llywodraethwr,

18. o drosedd yng ngŵydd barnwr ac ynad,o gamwedd yng ngŵydd y gynulleidfa a'r bobl,o anghyfiawnder yng ngŵydd cydymaith a chyfaill,

Ecclesiasticus 41