1. O farwolaeth, mor chwerw yw cofio amdanat tii un sy'n byw'n esmwyth ymysg ei feddiannau,i un dibryder sy'n llwyddo ym mhob ymgymeriadac yn dal yn ddigon cryf i fwynhau ei fwyd!
2. O farwolaeth, gweddus yw dy ddedfryd diar un anghenus a'i nerth yn pallu,wedi ei sigo gan henaint, yn bryderus am bob peth,yn wrthnysig, a'i amynedd ar ben!
3. Paid ag ofni dedfryd marwolaeth;cofia'r rhai a fu o'th flaen a'r rhai a ddaw ar dy ôl.
4. Dyma'r ddedfryd a gyhoeddodd yr Arglwydd ar bawb;pa les i ti wrthsefyll ewyllys y Goruchaf?Boed blynyddoedd dy einioes yn ddeg, neu'n gant, neu'n fil,yn Nhrigfan y Meirw ni bydd holi amdani.
5. Plant ffiaidd yw plant pechaduriaid,yn ymdroi yn nhrigfannau'r annuwiol.
6. Plant pechaduriaid, fe dderfydd eu hetifeddiaeth,a gwaradwydd fydd rhan eu hiliogaeth am byth.
7. Bydd ei blant yn beio tad annuwiolam y gwaradwydd a ddaeth arnynt o'i achos ef.