Ecclesiasticus 4:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Paid â gorwedd ar lawr i'r ffôl sathru arnat,na dangos ffafriaeth i lywodraethwr.

28. Ymegnïa hyd at farw dros y gwirionedd,ac fe frwydra'r Arglwydd Dduw drosot tithau.

29. Paidâ bod yn hy dy dafodac yn ddiog a diofal dy weithredoedd.

30. Paid â bod fel llew yn dy dŷ,gan ladd ar dy weision o hyd.

31. Paid â dal dy law yn agored i dderbyn,a'i chau'n dynn ddydd talu'n ôl.

Ecclesiasticus 4