Ecclesiasticus 4:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. A fydd yn ufudd iddi a farna'r cenhedloedd;a rydd sylw iddi a gaiff gartref diogel.

16. Os ymddirieda ynddi, fe'i caiff hi'n etifeddiaeth,a bydd cenedlaethau o'i blant yn ei meddu.

17. Ar y cyntaf bydd hi'n cydgerdded ag ef ar lwybrau troellog,ac yn codi ofn a dychryn arno,ac yn ei boenydio â'i disgyblaeth,nes iddi fedru ymddiried ynddoa'i roi ar brawf â'i gofynion cyfiawn.

18. Yna fe ddychwel ato ar ei hunion, a'i lonnia datguddio iddo ei chyfrinachau.

Ecclesiasticus 4