Ecclesiasticus 4:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. I'r plant amddifad, bydd fel tad,ac i'w mam, cymer le ei gŵr;byddi felly fel mab i'r Goruchaf,a chei dy garu ganddo'n fwy na chan dy fam dy hun.

11. Y mae doethineb yn dyrchafu ei phlantac yn cynorthwyo'r rhai sy'n ei cheisio.

12. A'i câr hi a gâr fywyd;a ddaw ati yn fore a lenwir â llawenydd.

13. A lŷn wrthi a etifedda ogoniant,a lle bynnag yr â rhydd yr Arglwydd ei fendith.

14. A weinydda arni hi a wasanaetha'r Sanct;a'i câr hi a gerir gan yr Arglwydd.

15. A fydd yn ufudd iddi a farna'r cenhedloedd;a rydd sylw iddi a gaiff gartref diogel.

16. Os ymddirieda ynddi, fe'i caiff hi'n etifeddiaeth,a bydd cenedlaethau o'i blant yn ei meddu.

Ecclesiasticus 4