Ecclesiasticus 4:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fy mab, paid â dwyn ei fywoliaeth oddi ar y tlawd,na chadw llygaid yr anghenus i ddisgwyl.

2. Paid â thristáu'r sawl sy'n newynu,na chythruddo neb yn ei angen.

3. Paid â chyffroi mwy ar galon a gythruddwyd,na chadw'r cardotyn i ddisgwyl am dy rodd.

4. Paid â throi ymaith ymbiliwr yn ei gyfyngder,na throi dy wyneb oddi wrth y tlawd.

Ecclesiasticus 4