Ecclesiasticus 39:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Ar ei archiad, fe gyflawnir y peth a fyn,ac ni all neb gyfyngu ar ei allu achubol ef.

19. Y mae gweithredoedd pob un yn hysbys iddo,ac nid oes modd cuddio dim rhag ei lygaid.

20. O dragwyddoldeb i dragwyddoldeb y mae ef yn gwylio,ac nid oes dim a all beri syndod iddo.

21. Ni ddylai neb ofyn, “Beth yw hyn?” neu, “Pam y mae hyn?”Oherwydd y mae popeth wedi ei greu at ei bwrpas ei hun.

Ecclesiasticus 39